Yn galw ar bob myfyriwr yng Nghymru! Rydyn ni’n cynnal cystadleuaeth ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Os ydych chi’n hoffi ffotograffiaeth ac yn caru’r lle rydych chi’n byw, yna dyma’r gystadleuaeth i chi.
Yn Cyflwyno: Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Dydd Gŵyl Dewi – ‘Fy Lle i yng Nghymru’
Yn syml, tynnwch lun o’ch hoff le yng Nghymru, a naill ai ei anfon i’r blwch post cymunedol yn oustudents-community@open.ac.uk neu ei bostio yn sylwadau postiad y gystadleuaeth lluniau ar ein tudalen Facebook Cymraeg. Gall hwn naill ai fod yn llun sy’n dweud rhywbeth wrthym am eich rhan chi o Gymru neu’n llun o’ch hoff le yng Nghymru. Gallai olygu lle rydych chi’n byw, lle rydych chi’n mynd ar wyliau, neu rywle mae gennych chi atgofion plentyndod ohono, er enghraifft.
Mae croeso i chi sôn am ble yng Nghymru mae’r llun wedi cael ei dynnu. Efallai y byddwch yn teimlo ei fod yn gyfle da i rannu gwybodaeth am ble rydych chi’n byw a chysylltu â myfyrwyr eraill y Brifysgol Agored sy’n byw gerllaw.
Mae’r gystadleuaeth hon yn cael ei chynnal gan Gynrychiolydd Ardal Cymdeithas y Myfyrwyr ar gyfer Cymru (Hanna Silk), a fydd yn beirniadu’r ceisiadau gyda’r Swyddog Polisi Addysgu a Dysgu yn y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Mae’r gystadleuaeth yn cael ei lansio ar 1 Mawrth 2022 ac yn cau am 11pm ar 15 Mawrth 2022.
Os byddwch chi’n cyflwyno cais, byddwch yn cael cyfle i ennill mwg Cymdeithas Myfyrwyr y Brifysgol Agored, Mr Owl o Siop y Brifysgol Agored a thystysgrif enillydd!
Bydd y llun buddugol yn cael ei ddatgelu ar y 17eg o Fawrth.
I’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd meddwl beth i dynnu llun ohono, neu sydd eisiau ychydig mwy o arweiniad, dyma rai lluniau a ddewiswyd gan Hanna i roi ychydig o ysbrydoliaeth:
Gallwch gymryd a rhannu gymaint o luniau gwahanol ag y dymunwch nes eich bod yn hapus gydag un ohonynt i’w cyflwyno fel eich cais yn y gystadleuaeth.
Felly ewch ati i gael eich ysbrydoli, ewch allan a thynnu lluniau!
Pob lwc i bawb!
Gweler y telerau ac amodau llawn cyn ymgeisio.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn cystadlaethau ond dydych chi ddim yn fyfyriwr yng Nghymru? E-bostiwch ni gyda’ch syniadau am gystadleuaeth!
0 Comments