Prosiect GROW

Profiad gwaith wedi’i ariannu i raddedigion yng Nghymru yn ystod y pandemig.


This article is also available to read in English.

Julie Bush, Ymgynghorydd Cyflogadwyedd ar gyfer rhaglen GROW – Cyfleoedd Profiad Gwaith i Raddedigion yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, sydd yn sgwrsio â Hanna Silk, Cynrychiolydd Ardal ar gyfer Cymru, am y cyfleoedd sydd ar gael i raddedigion yng Nghymru. 

O fewn ei swydd, mae Julie yn recriwtio graddedigion i’r rhaglen GROW ac yn gweithio gyda nhw i baratoi ar gyfer gwaith, cwrdd â chyflogwyr ledled Cymru i ddatblygu cyfleoedd profiad gwaith a chefnogi’r graddedigion hynny sy’n cwblhau lleoliad gwaith.

Beth yw’r prosiect GROW? 

Mae GROW yn gyfle gwych i raddedigion, sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau yn ystod y pandemig, gael profiad gwaith wedi’i ariannu. Rydym eisoes yn cynnig y cyfle hwn i raddedigion y Brifysgol Agored o’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. Gall graddedigion y Brifysgol Agored yng Nghymru fanteisio ar gymorth ychwanegol i baratoi ar gyfer y cam academaidd nesaf, rheoli unrhyw heriau sydd o’u blaenau a gwireddu eu breuddwydion.  

Yn ogystal â lleoliad profiad gwaith gyda chyflogwr a chyflog a delir yn ôl cyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gall GROW gynnig cymorth penodol pellach gyda chyflogaeth i’ch helpu chi gynllunio’ch gyrfa a chanolbwyntio ar chwilio am waith. Mae hwn yn gyfle gwych i raddedigion ddatblygu eu sgiliau parod i weithio, magu hyder a chael mwy o brofiad. Caiff ei ariannu am gyfnod byr, a hoffem i gynifer o raddedigion â phosibl fanteisio ar y rhaglen. 

Pam fod y rhaglen ar gael yng Nghymru yn unig? 

Sefydlwyd GROW gydag arian gan Lywodraeth Cymru drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) fel rhan o’u cynllun adfer Covid-19. Mae’r llywodraeth wedi cydnabod yr heriau sy’n wynebu graddedigion yn y farchnad swyddi o ganlyniad i’r pandemig, ac mae eu cynllun yn rhoi pwyslais ar gyflawni canlyniadau gwell i bobl fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan y dirywiad economaidd. Mae hyn yn cynnwys pobl anabl, pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, Du ac Asiaidd, menywod, ac unigolion gyda phrinder sgiliau a chyflogau isel. 

 Mae rhaglen gyffelyb ar gael i raddedigion yn yr Alban a chafodd ei lansio yn ddiweddar, Graduate Career Advantage Scotland (GCAS). 

Sut all prosiect GROW helpu myfyrwyr yng Nghymru?

Mae GROW yn cynnig pecyn penodol yn cynnwys rhai, neu bob un o’r canlynol:

  • apwyntiadau un-i-un gydag ymgynghorydd
  • cymorth yn ystod y broses recriwtio gyfan o lunio CVs, llythyr eglurhaol, ceisiadau, i baratoi ar gyfer cyfweliadau a chanolfannau asesu
  • amrywiaeth o adnoddau yn cynnwys gweminarau byw a rhai a recordiwyd yn ymdrin â sgiliau yn y gweithle, arferion recriwtio a hunan-ddatblygiad
  • sesiynau a ddarparwyd gan arbenigwyr ym maes cyflogadwyedd
  • defnydd o Dempled CV, CV360 ac Interview360 ar gyfer prosesau recriwtio ar-lein

Bydd GROW yn eich paru chi â phrofiad gwaith â thâl gyda chyflogwyr mewn sectorau gwahanol, gan roi cyfle i chi wella eich dealltwriaeth o swydd neu ddiwydiant, gwella eich rhwydweithiau a chael profiad hollbwysig ar gyfer eich CV neu gyfweliadau. Gall lleoliadau profiad gwaith fod yn hyblyg er mwyn gweddu i’ch bywydau, gyda’r rhan fwyaf yn cynnig gweithio o bell. Rydym wedi cwrdd â sawl cyflogwr yng Nghymru ac wedi trefnu ambell i gyfle cyffrous, yn cynnwys cyfleoedd gyda’r Brifysgol Agored ei hun.

Bydd graddedigion yn cael eu mentora a’u cefnogi gan yr Ymgynghorydd Cyflogadwyedd cyn eu cyfnod profiad gwaith, yn ystod y profiad gwaith, ac ar ôl ei gwblhau, ac mae hynny’n cynnwys cymorth i fyfyrio ar y sgiliau maent wedi’u datblygu.

Pwy all ymgeisio ar gyfer y rhaglen?

Bwriad y gronfa yw helpu graddedigion sy’n ddi-waith neu mewn swyddi sgiliau isel (ddim mewn swydd sy’n gysylltiedig â’ch sgiliau neu’r cymwysterau rydych wedi’u hennill).

Gallwch wneud cais ar gyfer y rhaglen GROW os ydych wedi graddio o’r Brifysgol Agored yng Nghymru ers 2019, neu rydych yn disgwyl graddio eleni. Mae hyn yn cynnwys pob dull astudio (llawn amser a rhan-amser) a lefel (tystysgrifau, diplomâu, gradd gyntaf, cymhwyster israddedig ac ôl-raddedig arall).

Sut mae graddedigion yng Nghymru yn gwneud cais? 

Cysylltwch â’r Ymgynghorydd Cyflogadwyedd GROW i ddysgu mwy, graduates-wales@open.ac.uk neu cwblhewch y ffurflen gofrestru i raddedigion GROW ac fe gysylltwn ni gyda chi. 


Like it? Share with your friends!

What's Your Reaction?

like like
0
like
disagree disagree
0
disagree
useful useful
0
useful
fun fun
0
fun
love love
0
love
lol lol
0
lol
omg omg
1
omg
Hanna Silk

2 Comments

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.